Yr Hen Iaith
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
Latest Episodes
Pennod 100 - Yr Eisteddfod, y Nofel, a Gwleidyddiaeth ar Ddiwedd Canrif
Dyma ni’n dathlu diwedd cyfres 3 Yr Hen Iaith a’r ffaith syfrdanol ein bod ni wedi cyrraedd 100 o benodau – yn y brif gyfres, heb gyfrif y gyfres lefel A – gyda phennod arbennig a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Edrychwn yn gyntaf ar ychydig o hanes yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gweld bod nifer o themâu canolog y gyfres hon hefyd yn ganolog yn yr eisteddfodau hynny. Wrth grybwyll y bobl a oedd yn gwe…
Pennod 99 - Breuddwyd Cenedlaetholwr wrth ei Ewyllys: Emrys ap Iwan
Gan barhau â’n pwyslais diweddar ar lenyddiaeth y 1890au a’r cysylltiad rhwng llenorion Cymraeg y cyfnod hwnnw a gwleidyddiaeth genedlaetholgar, edrychwn ar Emrys ap Iwan y tro hwn. Byddai T. Gwynn Jones ysgrifennu cofiant iddo yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac byddai’r llyfr hwnnw’n dylanwadu’n drwm ar y genhedlaeth nesaf o genedlaetholwyr Cymreig, ond canolbwyntiwn ar waith llenyddol Emrys ap Iwan. Ar ôl ystyried gyrfa gynnar y Cymro Ewropeaidd hwn a’r modd yr aeth ati i feirniadu’r ‘Dwymyn …
Pennod 98 - O. M. Edwards
Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau …
Pennod 97 - Iwtopia Bardd a Beirniadaeth Ysgolhaig: John Morris-Jones
Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth. Nodwn fod JMJ yn ddarlithydd ifanc yng Ngholeg Prifysgol Gogledd …
Pennod 96 - Fflangell Elphin: Barddoniaeth a Beirniadaeth Lenyddol yn y 1890au
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895. Ystyriwn feirniadaeth afieithus Elphin wrth iddo fflangellu’r ‘Bardd Newydd’ a nodi bod ganddo bwyntiau difrifol iawn er gwaethaf ei ormodiaeth ddychanol. Cydymdeimlwn â dwy ochr y ddadl lenyddol hon ac awgrymwn ei bod yn fodd i bwyso a mesur cyflwr barddoniaeth Gymraeg ar ddiwedd y ganrif. Ac mae llawer o’r cwestiynau canolog yr un mor berthnasol wrth ystyried bard…
Pennod 95 - ‘A Natur sy’n canu ei hanthem i mi’: Islwyn a’i ‘Storm’
Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’. Yn ôl Glyn Tegai Hughes, hwn oedd bardd Cymraeg gorau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond er i Islwyn ennill enw fel bardd o bwys yn ystod ei oes trwy gystadlu’n aml mewn eisteddfodau ac ati, nid oes llawer sy’n arbennig am yr holl farddoniaeth eisteddfodol hon. Mae’r bardd hwn yn haeddu lle anrhydeddus yn hanes llenyddiaeth Gymraeg oherwydd un gerdd a gyfansoddodd, ‘Y Storm’. Ond mae’r gerdd honno’n hir i…
Pennod 94 - Profedigaethau Enoc Huws: Daniel Owen (rhan 2)
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws. Dechreuwn gyda brawddeg agoriadol y nofel – o bosibl y frawddeg enwocaf yn holl hanes ffuglen Gymraeg – ac ystyried arwyddocâd y feirniadaeth gymdeithasol y mae’n gerbyd iddi. Dyma’r nofelydd o’r Wyddgrug ar ei orau, ac yntau’n awdur a oedd yn ddigon dewr ac yn ddigon hyderus i edrych yn feirniadol ar ei gymdeithas ei hun. Mae hefyd yn dychanu diwylliant llenyddol Cymraeg cyfoes a’r traddodiad crefydd…
Pennod 93 - ‘Cymreigrwydd ei Gymeriadau’: Daniel Owen (rhan 1)
Wedi ystyried gwrthwynebiad rhai Cymry Ymneilluol i’r nofel mewn ambell bennod ddiweddar, cawn yn y bennod hon gyfle i ddechrau trafod Daniel Owen, nofelydd Cymraeg mwyaf llwyddiannus y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nodwn fod ei waith wedi’i wreiddio yng nghymdeithas ddiwydiannol sir y Fflint a bod Methodistiaeth Galfinaidd yn ddylanwad mawr arno hefyd, er iddo ysgrifennu ffuglen ddychanol sy’n feirniadol iawn o’i enwad ei hun. Lluniodd fersiwn ffuglennol o’i dref enedigol, Yr Wyddrug, yn Y Drefl…
Pennod 92 - Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg Patagonia
A ninnau wedi rhoi sylw i lenyddiaeth Gymraeg Gogledd America mewn cwpl o benodau cynharach, dyma gyfle i ehangu’r drafodaeth ac ystyried y modd yr ehangodd y ‘diaspora’ Cymraeg wrth i’r Wladfa – neu’r ‘Wladychfa’ – ym Mhatagonia gael ei chreu. Ond dechreuwn trwy bwysleisio’r cysylltiad rhwng y profiadau Cymreig a Chymraeg yng Ngogledd America a hanes cynnar Y Wladfa trwy graffu ar gyfnod Michael D. Jones yn yr Unol Daleithiau. (Ac mae anghytundeb cyfeillgar ond gweddol boeth rhwng y ddau ohonom…
Pennod 91 - Cranogwen
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar Sarah Jane Rees (1839-1916), y fenyw amryddawn o Langrannog a fabwysiadodd yr enw Cranogwen. Trafodwn ychydig o’i hanes rhyfeddol, gan gynnwys ei hymwneud â diwydiant morwrol Cymru, a’r ffaith iddi herio a goresgyn rhagfarn yn sawl maes mewn cymdeithas a oedd yn rhywiaethol iawn. Edrychwn ar ddetholiad o’i cherddi, gan ddechrau â’r bryddest ‘Y Fodrwy Briodoasol’ a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, a hithau wedi curo dau o feird…
Pennod 90 - Aelwyd F’Ewythr Robert
Dyma ni’n parhau i drafod Gwilym Hiraethog yn y bennod hon, gan graffu ar garreg filltir o lyfr a gyhoeddodd yn 1853, Aelwyd F’Ewythr Robert neu Hanes Caban F’Ewythr Tomos. Byddai rhyw wyth trosiad Cymraeg o nofel wrthgaethiwol ddylanwadol Harriet Beecher Stowe, Uncle Tom’s Cabin, yn ymddangos erbyn canol y 1850au, ond cyfrol Gwilym Hiraethog yw’r mwyaf diddorol o safbwynt llenyddoldeb, uchelgais a chreadigrwydd. Yn ogystal â chyfieithu ffuglen Saesneg i’r Gymraeg, aeth y llenor o Lansannan ati …
Pennod 89 - Gwilym Hiraethog
Pe bai’n rhaid dewis un llenor yn unig wrth drafod holl lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jerry Hunter yn dweud y byddai’n dewis Gwilym Hiraethog (1802-1883). Ganed William Rees mewn teulu o amaethwyr cymharol dlawd ym mhlwyf Llansannan, sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond eto byddai’r dyn rhyfeddol hwn yn cyfrannu mewn llawer iawn o wahanol ffyrdd at fywyd llenyddol a deallusol Cymru. Aeth yn weinidog yng Nghapel Lôn Swan, Dinbych, gan ddilyn Robert E…
Pennod 88 - ‘Chwaeth bresennol y Bobl’: Ceiriog
Trafodwn John Ceiriog Hughes (1832-1887) yn y bennod hon. Ceiriog o bosib oedd y bardd Cymraeg mwyaf poblogaidd yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth graffu ar y modd yr aeth ati i greu a chyflwyno delweddau ‘derbynol’ o Gymru a’r Cymry, nodwn fod ei waith yn enghraifft dda o’r effaith andwyol a gafodd ‘y Llyfrau Gleision’ ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Dyfynnwn Hywel Teifi Edwards a ddywedodd mai ‘gwas ei gymdeithas’ oedd Ceiriog, ac yntau’n ‘bodloni anghenion ei oes’ yn h…
Pennod 87 - ‘Pur fel y Dur’: Y Llyfrau Gleision a Llên Benywod
Dyma ni’n parhau i drafod effaith y ‘Llyfrau Gleision’ ar lenyddiaeth Gymraeg, gan ganolbwynio’n benodol ar lais llenyddol y Gymraes y tro hwn. Mae teitl y bennod hon yn deyrnged i astudiaeth ardderchog Jane Aaron, Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, cyfrol sydd, yng ngeiriau’i hawdur, yn archhwilio’r modd yr ‘ymrithiodd arwres newydd’ ‘o burdan enllib y Sais’. Awn ati i ystyried y gyfrol gyntaf o farddoniaeth Gymraeg gan fenyw a gyhoeddwyd, sef Telyn Egryn …
Pennod 86 - R. J. Derfel a Brad y Llyfrau Gleision (neu ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!)
(neu, a defnyddio teitl arall a awgrymodd Richard Wyn Jones, ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!) Trafodwn yn gyntaf hanes y ‘Llyfrau Gleision’ a gyhoeddwyd y 1847. Teitl Saesneg cywir yr adroddiadau hyn yw The Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales. Dyma’r cyfrolau drwgenwog sy’n pardduo iaith, moesau a diwylliant Cymru. Canolbwyntiwn wedyn ar waith y bardd o gyffiniau Llandderfel Robert Jones neu ‘R. J. Derfel’, a nodi’i fod yn sosialydd Cymraeg arloesol.…
Pwnnod 85 - Rhannu ‘Trysorau Gwerthfawr’: Dechreuadau gwasg gyfnodol Gymraeg America
Dyma’r ail bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn ystod cynhadledd NAASWCH yn Rio Grande, Ohio. Trafodwn hanes cynnar gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol Daleithiau (ac wrth nodi ymlyniadau crefyddol rhai o’r cyfnodolion hyn mae Richard Wyn Jones yn amlygu enwadaeth annisgwyl!). Awn ati wedyn i ganolbwyntio ar y cyfnodolyn Cymraeg Americanaidd cyntaf i lwyddo, Y Cyfaill o’r Hen Wlad, gan edrych ar gynnwys rhai o rifynnau cynnar y cylchgrawn diddorol hwnnw. Cawn yn un o’r testunau hyn awgrym d…
Pennod 84 - Yr Hen Bersoniaid Llengar, Ieuan Glan Geirionydd ac Alun
Wrth i ni barhau i ystyried barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nodwn yn gyntaf fod barn ysgolheigion diweddarach yn negyddol iawn amdani ar y cyfan. Cawn gyfle felly i ofyn cwestiwn cyffredinol: ai sothach sentimental a gwaith gorgrefyddol sych yw swmp barddoniaeth y cyfnod? Awn ymlaen i drafod ‘yr hen bersoniaid llengar’, Anglicaniaid a oedd yn hyrwyddo diwylliant Cymraeg yn egnïol (ac yn ceisio gwrthbwyso grym diwylliannol ymneilltuaeth). Canolbwyntiwn ar un ohonynt, John Jenk…
Pennod 83 - Awdl Eisteddfodol a Phroto-Nofel: Cawrdaf
Trafodwn William Ellis Jones (1795-1848) yn y bennod hon. Ac yntau’n frodor o Abererch, Eifionydd, cymerodd enw’r sant y mae’r eglwys leol wedi’i chysegru iddo – Cawrdaf – yn enw barddol. Gweithiai fel argraffydd ac arlunydd, ond canolbwyntiwn wrth reswm ar ei weithgareddau llenyddol. Cyfansoddai nifer o awdlau ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, gan gynnwys ‘Hiraeth Cymro am ei Wlad’. Er na lwyddodd i ennill gyda hi yn Eisteddfod Wrecsam yn 1820, aeth hi’n awdl boblogaidd iawn yn ystod y bedwa…
Pennod 82 - Eben Fardd
Canolbwyntiwn ar Ebenezer Thomas (1802-1863) yn y bennod hon. Mae trafod dechrau’i yrfa lenyddol gynnar yn gyfle i ni ystyried diwylliant barddol Cymraeg hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol. Bu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg yn ei fro enedigol, Eifionydd, yn fodd i’r Ebenezer ifanc hogi’i grefft, dod i adnabod beirdd adnabyddus yr ardal megis Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn, ac ennill yr enw ‘Eben Fardd’. Wedyn, mae disgrifio’r modd y daeth yn fardd cenedlaethol o bwys …
Pennod 81 - ‘Gwybodaeth yn amlhau’: Y Wasg Gyfnodol Gymraeg ar ddechrau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’
A ninnau wedi cyrraedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuwn drafod rhai o’r trawsffurfiadau a effeithiai ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Diwydiannu, tŵf y boblogaeth, datblygiadau technolegol, balchder yn yr ymerodraeth Brydeinig – byddai’r holl ffactorau hyn yn cyflyru llenyddiaeth Gymraeg wrth i’r ganrif fynd rhagddi. Ond canolbwyntiwn yn y bennod hon ar un peth sydd o’r pwys mwyaf i’r rhai sydd am ddeall hanes llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef tŵf y wasg gyfnodol Gy…





